Jamie Roberts
Mae Gleision Caerdydd wedi cadarnhau bod y canolwr Jamie Roberts yn gadael y rhanbarth ddiwedd y tymor hwn.

Ac mae eu Cadeirydd wedi rhybuddio y bydd rhaid i’r Undeb Rygbi roi arian i atal llif y sêr o Gymru i wledydd eraill.

Yn ôl y Gleision, roedden nhw wedi gwneud cynnig ariannol i Roberts a fyddai wedi golygu mai ef oedd yn cael y cyflog mwya’ o’r holl chwaraewyr yng Nghymru, efallai yn y Deyrnas Unedig.

Ond mae’n ymddangos y bydd Roberts yn gadael am Ffrainc gan ddilyn llu o chwaraewyr rhyngwladol eraill o Gymru.

Y llif yn parhau

“Fe fydd y llif o chwaraewyr allan o Gymru’n parhau os na ddaw rhagor o arian gan y corff llywodraethu,” meddai Cadeirydd y Gleision, Peter Thomas.  “Rhaid i’r corff llywodraethu gymryd llawer rhagor o gyfrifoldeb.”

Pan oedd y Gleision yn chwarae Leinster yng Nghwpan Heineken, roedd y tîm Gwyddelig yn cael dwywaith mwy o arian na’r Cymry gan eu hundeb rygbi nhw.

Doedd hi ddim yn bosib bellach, meddai, i unigolion fel ef dalu am y gêm broffesiynol ac roedd colli chwaraewyr yn gwneud drwg i’r rhanbarthau ac i’r tîm cenedlaethol.

‘Methu â chystadlu’

“Roedd y cynnig a wnaethon ni yn un hynod o ddeniadol ac fe fyddai wedi golygu mai ef oedd y chwaraewr gyda’r cyflog mwya’ yn sgwad y Gleision, ac o bosib yn y DU,” meddai Prif Weithredwr y rhanbarth, Richard Holland.

“Fel busnes, does gyda ni ddim o’r adnoddau i gystadlu gyda’r cynigion y mae Jamie wedi eu derbyn.”

Chwerwder

Roedd yna ychydig o chwerwder yn sylwadau Peter Thomas wrth iddo bwysleisio bod y Gleision wedi meithrin gyrfa Jamie Roberts ac wedi’i gefnogi mewn adegau anodd.

Roedd y canolwr mawr wedi ymuno gyda chlwb Caerdydd pan oedd yn Ysgol Glantaf ac wedi dod trwodd i dîm y rhanbarth erbyn 2007.

Mae wedi chwarae 81 o weithiau i’r Gleision ers hynny ac wedi ennill 44 o gapiau i Gymru a chael ei ddewis yn chwaraewr gorau taith y Llewod i Dde Affrica yn 2009.

Ond dim ond dwywaith yr oedd wedi chwarae i’r Gleision yn ystod y tymor diwetha’, oherwydd anafiadau a galwadau rhyngwladol.