Bradley Wiggins
Mae’r seiclwr Olympaidd a phencampwr y Tour de France Bradley Wiggins yn gwella yn yr ysbyty ar ôl bod mewn gwrthdrawiad a char.

Cafodd Wiggins, 32, ei daflu oddi ar ei feic yn dilyn gwrthdrawiad gyda Vauxhall Astra Envoy oedd, mae’n debyg, yn gadael gorsaf betrol.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu ei fod yn ymddangos yn wreiddiol bod ei anafiadau yn rhai difrifol ond bellach, mae’n ymddangos ei fod wedi torri nifer o asennau ac wedi ei gleisio.