Southport 1–4 Wrecsam

Sgoriodd Wrecsam bedair yn erbyn Southport ar Haig Avenue nos Fawrth i aros yn ail yn Uwch Gynghrair y Blue Square, ond dim ond wedi i’r tîm cartref fynd i lawr i ddeg dyn.

Rhoddodd Steven Tames y tîm cartref ar y blaen cyn i Godfrey Poku dderbyn cerdyn coch yn gynnar yn yr ail hanner. Unionodd Jay Harris yn syth a sicrhawyd y fuddugoliaeth gyda thair gôl arall yn y chwarter awr olaf.

Rhwydodd Tames y gôl agoriadol ddeg munud cyn yr egwyl wedi i Shaun Whalley ddod o hyd iddo yn y cwrt cosbi.

Roedd Poku wedi derbyn cerdyn melyn cynnar felly bu rhaid iddo adael y cae wedi deg munud o’r ail hanner pan welodd ail am drosedd ar Neil Ashton.

Munud yn unig gymerodd hi i Harris i unioni’r sgôr gydag ergyd o du allan i’r cwrt cosbi ond bu rhaid aros tan ddeuddeg munud o’r diwedd cyn i gôl Chris Lynch i’w rwyd ei hun roi’r dreigiau ar y blaen.

Ychwanegodd Robert Ogleby a Chris Westwood ddwy arall yn y deg munud olaf i roi gwedd gyfforddus ar y canlyniad.

Mae’r fuddugoliaeth yn cadw tîm Andy Morrell yn ail yn y tabl ac roedd y chwaraewr reolwr mewn hwyliau da yn dilyn y gêm:

“Ro’n i’n meddwl ein bod yn enillwyr haeddiannol yn y diwedd. Dim ond 16 gêm sydd wedi bod ac mae dau draean o’r tymor ar ôl. Mae darn anoddaf o’r tymor eto i ddod.”

Southport

Tîm: McMillan, Smith (Lynch 74’), Grand, Willis, Parry, Whalley, Ledsham, Moogan, Poku, Tames (Benjamin 57’), Stephenson (Joyce 89’)

Gôl: Tames 37’

Cerdyn Melyn: Poku 12’

Cerdyn Coch: Poku 55’

Wrecsam

Tîm: Coughlin, Wright, Ashton, Westwood, Devine, Harris (Colbeck 89’), Keates, Clarke, Wright, Morrell (Ogleby 66), Rushton (Cieslewicz 75’)

Goliau: Harris 56’, Lynch [g.e.h.] 78’, Ogleby 81’, Westwood 86’

Cerdyn Melyn: Harris 26’

Torf: 1,324