Casnewydd 6–2 Caergrawnt

Rhwydodd Casnewydd chwe gôl wrth roi crasfa iawn i Gaergrawnt ar Rodney Parade nos Fawrth. Roedd hwn yn ymateb gwych gan dîm Justin Edinburgh wedi iddynt golli am y trydydd tro’n unig yn y gynghrair y tymor hwn brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd Lee Minshull a Michael Flynn o fewn dau funud i’w gilydd i roi dwy gôl o fantais i’r tîm cartref wedi ychydig dros chwarter awr.

Ac er i Tom Elliot dynnu un yn ôl i Gaergrawnt ddeg munud yn ddiweddarach roedd Casnewydd ddwy gôl ar y blaen unwaith eto wedi hanner awr diolch i gic rydd Andy Sandell yn dilyn trosedd Luke Berry ar Flynn ar ochr y cwrt cosbi.

Ymestynnodd Aaron O’Connor fantais y tîm cartref ar yr awr cyn i Berry roi llygedyn o obaith i’r ymwelwyr gydag ail gôl Caergrawnt.

Ond Casnewydd orffennodd y gêm gryfaf a rhwydodd O’Connor ei ail o’r gêm ugain munud o’r diwedd cyn i Michael Smith goroni’r cyfan gyda’r chweched funud o’r diwedd.

Mae’r canlyniad yn cadw Casnewydd ar frig tabl Uwch Gynghrair y Blue Square, bedwar pwynt yn glir o Wrecsam yn yr ail safle.

.

Casnewydd

Tîm: Pidgeley, James, Yakubu (Evans 84’), Pipe, Porter, Minshull, Swallow (Conor Washington 78’), Sandell, Flynn, O’Connor (Thomson 90’), Smith

Goliau: Minshull 16’, Flynn 17’, Sandell 30′, C’Connor 62′, 70′,Smith 90′

Cerdyn Melyn: Yakubu 68’

Caergrawnt

Tîm: Hedge, Jennings, Coulson, Wylde, McAuley, Shaw, Wellard (Pugh 58’), Berry, Gash (Hughes 66’), Elliott, Smith (Dunk 46’)

Goliau: Elliot 28’, Berry 69’

Cerdyn Melyn: Jennings 74’

Torf: 1,787