Catherine Gowing
Mae heddlu wedi dod o hyd i ragor o olion dynol yn ardal Caer wrth iddyn nhw chwilio am y milfeddyg coll o’r Wyddgrug.
Mae hynny’n dod union dair wythnos ers iddi ddiflannu ar ôl cael ei gweld ym maes parcio archfarchnad ar Lannau Dyfrdwy.
Tuea 2.15 y prynhawn yma oedd hi pan welodd swyddog o Heddlu Swydd Caer fod olion ar lan afon Dyfrdwy ger dinas Caer.
Roedd tîm o Heddlu Gogledd Cymru yn chwilio yn yr ardal am Catherine Gowing, 37 oed, ac fe gawson nhw eu galw draw.
Fe fydd profion fforensig yn cael eu gwneud ar y gweddillion ond mae teulu’r milfeddyg yn Iwerddon wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddara’.
Y cefndir
Ddoe fe ddaeth plismyn o hyd i weddillion eraill mewn pwll bas o ddŵr mewn cael ger Sealand.
Mae’r heddlu’n dal i apelio am ragor o wybodaeth, yn arbennig gan bobol a welodd gar Renault Clio piws Catherine Gowing neu gar Volvo 40S du sy’n eiddo i Clive Sharp, y dyn 46 oed o Fethesda sydd wedi ei gyhuddio o lofruddio’r wraig ifanc.