Fe fydd rheolau newydd tros fudd-dal tai yn achosi’r math o broblemau a fyddai fel rheol yn gofyn am weithredu cynlluniau argyfwng.
Dyna farn corff sy’n cynrychioli cyrff tai cymdeithasol wrth wynebu newidiadau mawr yn y drefn y flwyddyn nesa’.
Mae mudiadau tai’n rhybuddio y bydd 40,000 o bobol yng Nghymru’n cael eu heffeithio gan reolau sy’n dweud bod rhaid i denantiaid symud o dai sydd rhy fawr, neu golli peth o’u budd-dal.
Troi pobol allan
Mae cymdeithasau tai yn poeni y bydd tenantiaid yn methu â thalu ac y byddan nhwthau wedyn yn gorfod mynd i’r llysoedd a hyd yn oed droi pobol o’u cartrefi.
“Mae hwn yn argyfwng,” meddai Amanda Oliver, Pennaeth Polisi ac Ymchwil Tai Cymunedol Cymru wrth Radio Wales. “A dyw llawer o bobol ddim yn sylweddoli bod y newidiadau’n effeithio arnyn nhw.”
Yn ôl Llywodraeth Prydain, mae angen symud pobol o dai rhy fawr er mwyn rhoi cyfle i’r 90,000 o bobol sydd ar restrau aros yng Nghymru.
Yn Nhŷ’r Cyffredin y mis diwetha’, fe ddywedodd y gweinidog yn Swyddfa Cymru, Steve Crabb, fod gormod o bob ôl yn byw mewn tai “gyda stafelloedd gwag ac sy’n fwy na’u hanghenion”.
‘Rhagor yn ddigartref’
Ond mae mudiadau tai a thenantiaid yn rhybuddio y bydd y newid yn arwain at gynnydd mawr yn nifer y bobol ddigartref.
Dan amgylchiadau eraill, yn ôl Amanda Oliver, fe fyddai symud cymaint o bobol o’u cartrefi’n arwain at weithredu cynlluniau brys.
Doedd dim digon o dai ar gael i gynnig cartrefi llai i bobol, meddai, ac fe allai orfodi pobol i symud o ardaloedd lle’r oedden nhw wedi eu magu neu lle’r oedd eu plant yn mynd i’r ysgol.
“Efallai na fydd hi’n bosib i rai barhau i weithio,” meddai.