Caernarfon
Does dim ymgeisydd gan y Blaid Lafur ar gyfer Arfon yn etholiadau’r Cynulliad ar ôl i’w hymgeisydd blaenorol benderfynu peidio a sefyll.
Yn ôl cyn-gadeirydd Llafur Cymru, mae Alwyn Humphreys wedi rhoi’r gorau i fod yn ymgeisydd Llafur yn yr etholaeth, a does neb wedi ei benodi yn ei le eto.
Dim ond deg wythnos sydd i fynd nes i’r blychau pleidleisio agor ar gyfer etholiadau’r Cynulliad ar Mai 5, a does dim disgwyl i’r blaid benodi neb yn lle Alwyn Humphreys nes 9 Mawrth.
Cadarnhaodd y cyn-gadeirydd Tecwyn Thomas wrth Golwg 360 fod yr ymgeisydd gwreiddiol wedi penderfynu peidio sefyll, a’u bod nhw wrthi’n penderfynu pwy fydd yn cymryd ei le ar hyn o bryd.
“R’yn ni wedi gorffen rhoi’r rhestr fer at ei gilydd heddiw,” meddai Tecwyn Thomas, sydd yn cyfaddef bod penderfyniad Alwyn Humphreys i gamu o’r neilltu wedi creu “tipyn bach o broblem i ni, wrth gwrs”.
Ond doedd cyn-gadeirydd Llafur Cymru ddim yn meddwl y byddai hyn yn effeithio’n ormodol ar lwyddiant y blaid yn etholaeth Arfon.
“Mae pobl yn cael gwybod gan y blaid Lafur yn ganolog beth yw ein polisïau ni,” meddai Tecwyn Thomas. Ychwanegodd mai ymgyrchu dros y bleidlais ‘Ie’ ar Fawrth 3 oedd blaenoriaeth y blaid ar hyn o bryd.
Does dim rheswm swyddogol wedi cael ei roi am benderfyniad Alwyn Humphreys i gamu o’r neilltu, ond dywedodd y cyn-gadeirydd ei fod “wedi clywed stori, ond dydw i ddim yn gwybod os yw hi’n wir eto”.