Deiniol ap Dafydd o Blas ar Fwyd
Mae un o gwmniau bach blaenllaw Cymru wedi wfftio dadl mudiad Gwir Gymru na ddylid gwario arian ar ffyrdd o ogledd i dde Cymru.
Dywedodd Deiniol ap Dafydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Blas ar Fwyd Cyf o Lanrwst, ei fod yn cefnogi pleidlais Ie yn refferendwm y Cynulliad ar 3 Mawrth.
Roedd llefarydd ar ran Gwir Gymru wedi beirniadu cynllun Lywodraeth y Cynulliad I wario £10 miliwn er mwyn gwella cyflwr yr A487 yng Nglandyfi, rhwng Machynlleth ac Aberystwyth.
“Y prif ganolfannau ar gyfer masnach yn y gogledd yw Manceinion, Lerpwl ac efallai Birmingham. Mae de Cymru tua 180 milltir i ffwrdd. Mae hynny’n andros o siwrnai, hyd yn oed pe bai yna draffordd i gael,” meddai Nigel Bull o’r mudiad wrth Golwg.
“Does gan y ffyrdd yma (rhwng y de a’r gogledd) ddim pwysigrwydd economaidd o bwys, ar wahân i ffermwyr sydd am gael eu stoc i’r farchnad.”
Ond dywedodd Deiniol ap Dafydd fod y rhwydwaith ffyrdd yn angenrheidiol ar gyfer busnesau bach gan gynnwys Blas ar Fwyd.
“Mae Blas ar Fwyd yn delio â channoedd o fusnesau ar hyd a lled Cymru bob dydd, o fanwerthwyr mawr sefydledig i gynhyrchwyr ffermdai lleol. Rydym yn genedl o entrepreneuriaid beiddgar sydd heb ofn bachu ar unrhyw gyfle a llwyddo mewn busnes,” meddai.
“Ers canrifoedd, mae Cymru wedi ei chysylltu i Loegr ar ei thraws – y dyddiau hyn ar hyd yr A55 a’r M4. Mae’n bwysig i berchnogion busnes i bwysleisio y byddai gwell trafnidiaeth a seilwaith yn hwyluso cysylltiadau masnach cryf, gan ganiatáu Cymru i ddatblygu fel cenedl entrepreneuraidd ac annog ein pobl ifanc galluog i aros yng Nghymru i fyw a gweithio.
“Byddai cynigion yr ymgyrch Na yn andwyol i’r economi, ac mae’n cynrychioli agwedd byrdymor gul ac anghyfrifol mewn amser o galedi.”