Adeilad Dignitas yn y Swistir
Bydd meddyg dadleuol sy’n cael ei alw yn ‘Dr Marwolaeth’ yn cynnal gweithdy yng Nghaerdydd yfory er mwyn trafod ewthanasia.
Bwriad Dr Philip Nitshke, sy’n hanu o Awstralia, yw rhoi “gwybodaeth ymarferol i bobl” ynglŷn â chyflawni hunanladdiad, er mwyn “galluogi pobl i wneud penderfyniadau ynglŷn â sut a phryd y maen nhw’n marw”.
Mae’r gweithdai wedi eu hanelu at bobol sydd “dros 50 oed neu sy’n ddifrifol sâl,” meddai Dr Nitshke ar wefan y grŵp ewthanasia a sefydlwyd ganddo ym 1997, Exit International.
“Mae Exit International yn annog aelodau i lunio cynllun ar gyfer dod a’u bywydau i ben (yn debyg i drefniadau angladd),” meddai, gan ychwanegu ei fod yn debyg i “yswiriant ar gyfer y dyfodol”.
“Mae cynllunio ar gyfer y dyfodol fel hyn hefyd yn helpu teulu a ffrindiau rhag mynd i drafferthion gyda’r gyfraith.”
‘Allforio marwolaeth’
Yn ôl un academydd o Gymru, mae yna angen gwirioneddol i newid y gyfraith ar gynorthwyo hunanladdiad.
Dywed y darlithydd Robert Lynn o Adran y Gyfraith Prifysgol Caerdydd, sy’n arbenigo mewn meddyginiaeth, moeseg a’r gyfraith, ei bod hi’n “warthus ein bod ni’n gorfodi pobol i ddioddef bywyd, pan maen nhw eisiau marw.”
Dywedodd Robert Lynn nad oedd yn derbyn y ddadl y byddai hyn yn arwain at fwy o bobol yn llofruddio gan honni mai helpu gyda hunanladdiad oedden nhw.
“Dylai fod yna gyfreithiau mewn grym er mwyn atal hynny,” meddai.
“Ond mae gen i fy amheuon am y system hon,” meddai’r darlithydd, wrth drafod bwriad Dr Nitschke i addysgu pobol am ddeunyddiau effeithiol i’w defnyddio wrth ladd eu hunain.
“Fe fyddai system lle bod meddyginiaethau a chyffuriau marwol ar gael yn y gymuned, heb eu diogelu, yn beryglus,” meddai.
“Dwi’n meddwl bod system Dignitas yn y Swistir yn fwy dibynadwy,” meddai, gan gyfeirio at system lle mae’n gyfreithlon i helpu rhywun derfynu eu bywyd o dan amgylchiadau rheoledig iawn.
“Ond mae’n rhaid i ni gael ateb gwell yma ym Mhrydain,” meddai Robert Lynn.“Dydi allforio marwolaeth ddim yn iawn.”
‘Marwolaeth DIY’
Bydd y gweithdy yng Nghaerdydd yn cynnwys arddangosfa o declyn terfynu bywyd newydd Dr Nitschke, ‘Deliverance’.
Mae’r teclyn yn cysylltu gliniadur wrth chwistrellydd, a fydd yn chwistrellu hylif marwol i gorff yr unigolyn os yw’n ateb cyfres o gwestiynau ar sgrin yn gywir.
Mae tua 20 o bobol wedi rhoi eu henwau i lawr ar gyfer y gweithdy yn Nhŷ’r Crynwyr, Caerdydd, hyd yn hyn, gan dalu £32 y pen.
Bydd awr o gynhadledd gyhoeddus yn cael ei gynnal gan Dr Philip Nitschke i ddechrau, ond dim ond pobol dros 50 oed fydd yn cael ymuno ag ef yn y gweithdy prynhawn er mwyn trafod amrywiol gyffuriau, gwenwynau, nwyon a barbitwradau marwol, gydag addewid i ganolbwyntio ar yr hyn mae yn ei alw yn “DIY dying”.