Daeth yr heddlu o hyd i gorff ar wyneb clogwyn Pen y Gogarth yn Llandudno heddiw.

Fe ddaeth Gwylwyr y Glannau o hyd i gorff dyn tua 10.30am.

Does gan yr Heddlu ddim manylion am y dyn eto ond mae’r crwner wedi cael gwybod.

Mae’r heddlu yn ystyried y farwolaeth yn un heb esboniad.

Does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.