Muammar al-Gaddafi (Llun gan Stefan Rousseau/PA)
Mae cyn-weinidog cyfiawnder Libya wedi honni mai Muammar Gaddafi orchmynnodd bomio Lockerbie wedi’r cwbl.
Mae hefyd yn dweud mai Abdel Baset al-Megrahi osododd y bom ar yr awyren.
Yn ôl papur newydd Expressen Sweden, mae’r gweinidog Mustafa Abdel-Jalil yn honni fod ganddo brawf mai Gaddafi orchmynnodd yr ymosodiad yn yr Alban laddodd 270 o bobol yn 1988.
Ymddiswyddodd Mustafa Abdel-Jalil er mwyn protestio yn erbyn tactegau treisgar y llywodraeth wrth iddynt geisio atal y protestio ar strydoedd Libya.
Dywedodd fod Gaddafi wedi gorchymyn i Abdel Baset al-Megrahi ladd y 259 o bobol oedd ar yr awyren Pan Am 103 a’r 11 oedd ar y ddaear.
“Roedd Gaddafi yn benderfynol o gael al-Megrahi yn ôl o’r Alban er mwyn cuddio hynny,” meddai Mustafa Abdel-Jalil.
Cafodd al-Megrahi ei ryddhau o’r Alban ym mis Awst 2008. Roedd Llywodraeth yr Alban wedi cael gwybod gan feddygon y byddai’n marw o fewn tri mis, ond mae o yn dal yn fyw yn byw yn Libya.
Gaddafi’n gwadu
Dywedodd papur newydd Expressen bod y newyddiadurwr Kassem Hamade wedi cyfweld y cyn-weinidog mewn dinas yn Libya.
Mae Gaddafi wedi derbyn mai Libya oedd ar fai am yr ymosodiad ac wedi talu iawndal i deuluoedd y dioddefwyr.
Ond mae wedi gwadu mai ef oedd yn gyfrifol am orchymyn yr ymosodiad.
Roedd y rhan fwyaf o ddioddefwyr y bomio yn Americanwyr ac mae’r penderfyniad i ryddhau al-Megrahi’s wedi ei feirniadu gan aelodau Cyngres yr Unol Daleithiau a theuluoedd y dioddefwyr.
Dywedodd Bob Monetti, o Cherry Hill, New Jersey, gollodd ei fab 20 oed Richard yn y bomio, nad oedd yn synnu mai al-Megrahi oedd yn gyfrifol.
“Ers yr achos llys, gafodd ei gynnal ynghanol nunlle yn yr Iseldiroedd, mai Prydain wedi bod yn honni nad oedd gan Libya ddim byd i’w wneud â’r ymosodiad,” meddai.
“Ond yn yr achos llys roedd hi’n amlwg pwy wnaeth beth a pham, a phwy oedd wedi gorchymyn y peth.
“Rydw i’n edrych ymlaen at weld Gaddafi yn crogi.”