Colin Hatch
Mae carcharor 35 oed wedi ei arestio gan yr heddlu ar ôl llofruddiaeth pedoffeil drwg enwog yn un o garchardai mwyaf diogel Prydain.

Cafodd Colin Hatch wybod y byddai’n rhaid iddo dreulio gweddill ei fywyd dan glo ar ôl iddo lofruddio Sean Williams, 7 oed, ym mis Ionawr 1994.

Roedd ar barôl ar y pryd yn dilyn ymosodiad rhywiol ar blentyn arall.

Cafodd ei ladd nos Fawrth yng ngharchar Full Sutton ger dinas Efrog.

Dywedodd Heddlu Humberside fod dyn 35 wedi ei arestio ar amheuaeth o’i lofruddio. Mae o dal dan glo yn y carchar ond fe fydd yn cael ei symud i orsaf yr heddlu “yn hwyrach ymlaen”.

Roedd y Gwasanaeth Carchardai wedi ffonio’r heddlu yn fuan ar ôl 7.30pm nos Fawrth.

Ffoniodd y carchar 40 munud yn ddiweddarach a dweud fod Colin Hatch wedi marw.

Mae ei deulu wedi cael gwybod ac fe archwiliad post-mortem yn cael ei gynnal yn fuan.