Bydd y gwaith yn dechrau’r wythnos hon ar brosiect £5.1m i wella gorsaf drenau Llandudno.

Bydd gwaith cynllunio manwl yn dechrau ar wella’r orsaf a fydd yn cynnwys  ffrynt newydd, ynghyd â swyddfa docynnau, gwell cyfleusterau bysus a systemau gwybodaeth cwsmeriaid.

Mae’r orsaf wedi elwa yn sgil buddsoddiad o £3.5m gan Lywodraeth Cymru gan gynnwys cyllid strwythurol Cronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop, £1.5m o Raglen Genedlaethol Gwella Gorsafoedd yr Adran Drafnidiaeth a £150,000 arall gan yr Ymddiriedolaeth Treftadaeth Rheilffyrdd.

‘Profiad mwy cyfforddus’

Dywedodd y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth, Carl Sargeant: “Prosiect uwchraddio Gorsaf Llandudno yw’r cyntaf o nifer o  welliannau i orsafoedd y mae Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi wrth i ni weithio i wneud teithio ar y trên yn brofiad mwy cyfforddus a deniadol i’r cyhoedd.

“Yn ogystal â sicrhau argraff gyntaf gadarnhaol i ymwelwyr â Llandudno bydd y prosiect hwn hefyd yn hwb i’r economi lleol gan mai cyflogaeth leol fydd yn cael ei defnyddio i adnewyddu’r orsaf.”

Network Rail fydd yn cyflenwi’r cynllun ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau yn 2014.

Bydd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau yn cyhoeddi rhaglen bellach o welliannau i orsafoedd o gwmpas Cymru yn fuan.