Dr Rowan Williams
Mae’r newyddiadurwr Martin Bashir wedi beirniadu ‘gwisg Baganaidd’ Archesgob Caergaint, Dr Rowan Williams, sy’n aelod o Orsedd y Beirdd.

Mewn erthygl ym mhapur newydd y Daily Mail, mae’r newyddiadurwr yn dadlau fod gan yr Archesgob, sydd wedi cyhoeddi ei fod yn gadael ei swydd i fynd i ddysgu ym Mhrifysgol Caergrawnt, fwy o ddiddordeb mewn crefyddau eraill na’i ffydd ei hun.

Mae llun sy’n cyd-fynd â’r erthygl yn dangos yr Archesgob yng ngwisg wen yr Orsedd, heb esbonio pwysigrwydd y sefydliad.

Wrth ddatgan bod nifer o bobl yn yr Eglwys Anglicanaidd yn rhannu ei farn, dywedodd Martin Bashir: “Cynyddodd y fath bryderon ar ôl iddo fynychu gŵyl Baganaidd, wedi ei wisgo yn yr hyn a gafodd ei disgrifio fel ‘gwisg pagan’.”

Caiff un eglwyswr ei ddyfynnu ganddo, sy’n dweud: “Mae’n boenus i nifer o Gristnogion selog i deimlo nad yw ein Harchesgob ni ein hunain ar ein hochr ni.”

‘Diogi newyddiadurol’

Dywedodd cofiadur Gorsedd y Beirdd, Penri Roberts, wrth Golwg360: “Dyna ddiogi newyddiadurol gan Martin Bashir.

“Dwi’n gresynu bod y Daily Mail wedi rhoi’r llun yna.

“Does dim cyfeiriad at yr Orsedd, ond dyna’r ffordd mae’r papurau Seisnig a Phrydeinig yn trin y Gymraeg.

“Mae’n anfaddeugar i roi llun yno heb esbonio beth ydi ystyr y llun – ein ffordd ni o anrhydeddu pobl.”

“Be ydi o ydi ymgais i wneud i’r Archesgob edrych yn wirion, ac i greu darlun rhyfedd ohono fo.

“Does dim ymdrech i edrych i mewn i’r hyn y mae’r Orsedd yn ei wneud, ac maen nhw’n ei  gysylltu fo efo defodau paganaidd.

“Does dim ymgais, fel newyddiadurwr profiadol, i wneud ymchwil, a dyna sy’n gywilyddus.

“Dyma agwedd y papurau pan gafodd o ei urddo. Roedd y papurau yn edrych am rywbeth i’w bardduo fo.”

Mae Palas Lambeth, lle mae Archesgob Caergaint yn preswylio, wedi gwrthod gwneud sylw.