Fe fydd gwasanaeth cyflym 4G ar gael i filiynau o ddefnyddwyr ffonau symudol heddiw mewn 11 o ddinasoedd ar draws y DU – gan gynnwys Caerdydd.
Fe fydd EE, oedd yn arfer cael ei adnabod fel Everything Everywhere, yn lansio ei nwyddau a’i wasanaethau yng Nghaerdydd, Lerpwl, Manceinion, Llundain, Bryste, Southampton, Leeds, Sheffield, Caeredin a Glasgow heddiw.
Mae rhwydwaith 4G, sydd pum gwaith yn gyflymach na 3G, ar gael ar ffonau Apple iPhone 5 yn ogystal â dyfeisiadau gan HTC, Samsung, Nokia a Huawei.