Mae gŵr a gwraig sy’n athrawon mewn ysgolion i blant gyda anghenion arbennig yn ne Cymru wedi cael eu gwahardd rhag dysgu ar ôl honniadau bod Interpol wedi canfod lluniau anweddus o blant ar eu cyfrifiadur.
Cafodd enwau David Denis a Emma Stretton eu tynnu oddi ar y cofnod o enwau athrawon ar ddiwedd gwrandawiad deu-ddydd i’r honniadau yn eu herbyn gan Gyngor Dysgu Cyffredinol Cymru yng Nghaerdydd.
Fe glywodd y Cyngor bod 103 o luniau anweddus ar eu cyfrifadur cartref a bod 101 o’r rhain yn luniau o enethod rhwng 5 a 7 oed.
Penderfynodd y Cyngor bod nifer helaeth o’r cyhuddiadau yn erbyn y pâr canol oed wedi cael eu profi ac fe gafodd enw David Denis ei dynnu oddi ar y cofnod am byth ac enw Emma Stretton ei dynnu am 12 mis.
Bydd Emma Stretton hefyd yn gorfod talu o’i phoced ei hun i ddilyn rhaglen hyfforddiant am warchod plant a deunydd derbyniol o’r rhyngrwyd.
Ni fydd y ddau yn wynebu achos llys am nad oes modd darganfod pwy yn union wnaeth lawrlwytho’r lluniau ond honnwyd yn y cyfarfod disgyblu bod Denis wedi bod yn edrych ar y lluniau yn ystod oriau mân y bore a bod ei wraig yn gwybod hynny ond yn dewis anwybyddu’r peth.
Mae Denis eisoes wedi cael ei ddiswyddo o ysgol Heronsbridge ym Mhenybont ar Ogwr a Stretton wedi ei diswyddo o Ysgol Arbennig Tŷ Gwyn yng Nghaerdydd.
Nid oedd yr un o’r lluniau dan sylw yn gysylltiedig efo’r ysgolion yma.
Ni wnaeth Denis na Stretton fynychu’r cyfarfod yng Nghaerdydd a doedd neb yn eu cynrychioli yno chwaith.
Dywedodd aelod o’r Cyngor, Peter Williams eu bod o’r farn mai Mr Denis ddefnyddiodd y cyfrifiadur i lawrlwytho’r lluniau a hynny ar fwy nag un achlysur.
“Er nad oedd Mrs Stretton yn gyfrifol yn bersonol fe fethodd hi gydnabod a gweithredu ar y tebygolrwydd bod ei gwr yn gwneud hyn,” meddai.
“Mae hi yn parhau o’r farn bod hi a’i gwr yn ddioddefwyr yn hyn o beth a bod ei gŵr yn ddiniwed.”
“Mae ei methiant parhaus i gydnabod gweithrediadau ei gŵr yng ngoleuni’r holl dystiolaeth yn tanseilio ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd mewn athrawon.”