Alun Davies, Dirprwy Weinidog Amaeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru a’r undeb Unite wedi ymosod ar fwriad y Llywodraeth yn Llundain i ddileu’r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol yng Nghymru a Lloegr.
Mae Unite yn galw ar y llywodraeth i ymestyn yr ymgynghoriad ar ddyfodol y bwrdd tan y flwyddyn nesaf yn lle cau ar 12 Tachwedd.
Ac mae Dirprwy Weinidog Amaeth Cymru, Alun Davies, wedi cyhuddo llywodraeth Prydain o anwybyddu buddiannau Cymru.
“Mae ffigurau Defra eu hunain yn awgrymu y bydd 12,500 o weithwyr yng Nghymru’n cael eu heffeithio gan y penderfyniad yma,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
0“Mae’r rhai yn cynnwys rhai o’r gweithwyr sy’n cael eu talu leiaf yng Nghymru ac sy’n aml yn gweithio oriau hir ac anghymdeithasol o dan amodau anodd.”
Ychwanegodd y llefarydd fod y Dirprwy Weinidog a Llywodraeth Cymru’n benderfynol o sicrhau parhad i swyddogaethau’r bwrdd, beth bynnag fydd yn digwydd.
“Mae’r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol yn cynnig fframwaith cynhwysfawr i ffermwyr a gweithwyr ffermydd.
“Os bydd y trafodaethau’n methu, byddwn yn parhau i archwilio dewisiadau eraill er mwyn sicrhau bod y swyddogaethau hyn yn cael eu cynnal yng Nghymru.”