John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd Llywodraeth Cymru
Mae’r gwaith adeiladu wedi cychwyn ar y safle cyntaf o’i fath yng Nghymru a fydd yn troi gwastraff bwyd awdurdod lleol yn ynni.
Fe fydd gwaith GwyriAD, yng Nghlynnog Fawr, rhwng Caernarfon a Phwllheli, yn trin 11,000 tunnell o wastraff bwyd i Gyngor Gwynedd bob blwyddyn.
Gan ddefnyddio’r broses treuliad anaerobig, fe fydd gwastraff bwyd o gartrefi a busnesau Gwynedd yn cynhyrchu trydan i’r grid cenedlaethol a bio-wrtaith i’w daenu ar ffermdir lleol.
Fe fydd yn gallu cynhyrchu digon o drydan ar gyfer tua 700 o gartrefi bob blwyddyn – yn ogystal â lleihau’r gwastraff y mae Cyngor Gwynedd yn gorfod ei anfon i safleoedd tirlenwi ar hyn o bryd.
Cafodd y dywarchen gyntaf ar y prosiect ei thorri gan Weinidog yr Amgylchedd Llywodraeth Cymru, John Griffiths AC, heddiw.
“Bydd prosiect GwyriAD yn cynnig atebion tymor hir a chynaliadwy i’r angen i drin gwastraff bwyd yng Ngwynedd,” meddai.
Mae disgwyl i’r gwaith £5m gael ei gwblhau erbyn canol y flwyddyn nesaf a dechrau cynhyrchu trydan erbyn diwedd yr haf.