Silvio Berlusconi - euog o dwyll
Mae llys yn yr Eidal wedi dedfrydu’r cyn-Brif Weinidog Silvio Berlusconi i bedair blynedd o garchar am dwyll yn ymwneud â threthi.

Mae disgwyl iddo apelio yn erbyn y ddedfryd. Ni fydd yn cael ei garcharu ar unwaith, gan fod yn rhaid i achosion o’r fath fynd trwy ddwy lefel o apêl cyn reithfarn yn cael ei gweithredu.

Dyma’r tro cyntaf i lys gael y gwleidydd a’r dyn busnes dadleuol yn euog – mae ymchwiliadau troseddol ac achosion eraill wedi cael eu taflu allan.

Yn gynharach yr wythnos yma, roedd Berlusconi wedi cyhoeddi na fyddai’n sefyll etholiad am bedwerydd tymor fel prif weinidog.

Doedd y biliwnydd 76 oed ddim yn y llys i glywed y rheithfarn ar yr achos sy’n deillio o gyfrifon ariannol ei ymerodraeth fusnes Mediaset.