Yn dilyn cwynion gan y cyhoedd, cyhoeddodd Heddlu’r Gogledd y byddan nhw’n cynnal cyrch yn erbyn gyrwyr sy’n defnyddio’r Stryd Fawr ym Mangor heb ganiatâd.

Er bod mynediad i’r Stryd Fawr wedi ei gyfyngu i yrwyr anabl a cherbydau danfon nwyddau i siopau – a hynny rhwng 4.30 y prynhawn a 10am y bore wedyn yn unig – mae llawer o yrwyr yn anwybyddu’r rheol ac yn gyrru’n wyllt ar hyd-ddi.

Rhybuddia’r heddlu y gallai modurwyr gael eu herlyn mewn cyrch a fydd yn cychwyn ddydd Llun 5 Tachwedd ac yn parhau am bythefnos.

“Ein prif bryder yw diogelwch y cyhoedd sy’n defnyddio’r Stryd Fawr ac yn enwedig yr oedrannus a’r ifanc na fydd efallai’n gweld na chlywed cerbyd yn dod,” meddai Arwel Pritchard, Swyddog Cymorth Cymunedol gyda’r heddlu ym Mangor.

“Mae’r cyrch yn ymwneud ag addysg yn ogystal â gorfodi, ond lle bo’n briodol mi fydd modurwyr sy’n troseddau yn cael eu herlyn.

“Hoffwn i fodurwyr ystyried os hoffen nhw i’w plant neu neiniau a theidiau gael eu peryglu gan yrwyr gwrth-gymdeithasol pan fyddan nhw allan yn siopa.”

Mae Maer Bangor, y Cynghorydd Bryn Hughes, wedi croesawu’r camau mae’r heddlu’n eu cymryd. “Dw i’n falch iawn efo ymateb Heddlu Gogledd Cymru i bryderon y cyhoedd ym Mangor,” meddai.