Ban Ki-moon, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig
Mae dros 100 o bobl wedi cael eu lladd mewn gwrthdaro ethnig mewn chwe threflan yng ngorllewin Burma.
Fe ddechreuodd y gwrthdaro ddydd Sul rhwng cymunedau Bwdaidd a chymunedau Mwslimaidd, ac yn ystod yr wythnos mae nifer y marwolaethau wedi cynyddu i 112, gyda 72 wedi eu hanafu a 2,000 o gartrefi wedi eu llosgi i’r llawr.
Mae 75,000 o bobl eisoes yn byw mewn gwersylloedd ffoaduriaid yn y rhanbarth ers gwrthdaro tebyg ym mis Mehefin, ac mae pentrefi cyfan wedi cael eu llosgi.
Mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon wedi galw ar awdurdodau Burma i weithredu ar frys i adfer trefn yn y wlad.
“Os na fydd ymosodiadau a’r bygythiadau yma’n cael eu rhwystsro, bydd gwead cymdeithas yn cael ei ddifrodi, a bydd y broses o ddiwygio gwleidyddol yn debyg o fod mewn perygl,” rhybuddiodd.
Mewn datganiad, addawodd arlywydd Burma, Thein Sein, y bydd y fyddin, yr heddlu a’r awdurdodau’n cydweithio â phobl leol i geisio adfer heddwch a threfn.
Cafodd Thein Sein ei ethol yn arlywydd y llynedd – yr arlywydd etholedig cyntaf ar ôl bron i hanner canrif o ormes filwrol.