Reginald Davies (llun heddlu)
Mae cyn-filwr 78 oed wedi cael ei garcharu am 11 mlynedd am gam-drin pedair ifanc yn ne Cymru rhwng 1949 ac 1973.

Roedd troseddau Reginald Davies yn cynnwys treisio merch o dan 12 oed.

Roedd Davies, a wasanaethodd gyda’r Royal Engineers a’r Royal Dragoons, yn wreiddiol o dde Cymru ond wedi byw yn Awstralia ers 1974.

Roedd wedi cyflawni’r troseddau ar ferched rhwng naw ac 16 oed dros gyfnod y 24 mlynedd.

Yn ôl yr heddlu, dyma’r “cyhuddiadau hynaf erioed i gael eu clywed mewn llys ym Mhrydain.”

Adnabod

Cafodd ei ddal pan gafodd ei adnabod gan ddwy ddioddefwraig ar wyliau yn Awstralia yn 2008, a chafodd yr heddlu hyd i’r ddwy arall yn ystod eu hymchwiliad.

Cafodd Davies ei arestio ym mis Gorffennaf y llynedd yn ei gartref yn Wanneroo ar arfordir gorllewin Awstralia, a’i estraddodi ym mis Medi y llynedd.

Roedd y pedair dioddefwraig yn y llys pan gafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Kingston yn Llundain y  bore yma.

Fe wnaeth y Barnwr Susan Topping ddisgrifio Davies fel “dyn llwfr a oedd yn methu â derbyn bod ei orffennol wedi dal i fyny ag ef.”

Wrth ei ddedfrydu, meddai:

“Rhaid ichi bellach wynebu canlyniadau’r hyn a wnaethoch. Efallai ichi feddwl eich bod yn ddiogel rhag cyfiawnder hanner ffordd o gwmpas y byd, ond doeddech chi ddim.”