Mae llefarydd ar ran 10 Downing Street wedi cadarnhau bod swyddogion o lywodraeth America wedi gofyn i lywodraeth Prydain am hawl i ddefnyddio meysydd awyr Prydeinig os bydd America’n ymosod ar Iran.
Mae America’n awyddus i gael hawl i ddefnyddio meysydd awyr Prydain yn ogystal â Chyprus ac ar Ynys Ascension ym Môr Iwerddydd a Diego Garcia yng nghefnfor India er mwyn hwyluso’r cyrch milwrol.
Yn ôl adroddiad ym mhapur newydd y Guardian, roedd llywodraeth Prydain wedi gwrthod y cais.
Roedd hynny ar sail cyngor cyfreithiol gan swyddfa’r Twrnai Cyffredinol, Dominic Grieve, y byddai ymosodiad milwrol digymell yn erbyn Iran yn anghyfreithlon o dan gyfraith ryngwladol.
Ond gwrthododd y llefarydd ar ran Rhif 10 â chadarnhau beth oedd ymateb Prydain i’r cais.
“Mae paratoadau wrth gefn yn rhywbeth rydym yn ei drafod yn rheolaidd,” meddai’r llefarydd. “Rydym yn siarad yn rheolaidd â’r Unol Daleithiau, gan drafod pethau fel defnyddio meysydd awyr Prydeinig. Dydyn ni ddim yn manylu ar y trafodaethau hynny, ond rydym wedi cydweithio o safbwynt defnyddio meysydd awyr Prydeinig yn y gorffennol.”