Mae ymgyrchwyr yn erbyn cau eglwys yn bygwth cynnal protest ar ôl i’r offeren olaf gael ei chynnal yno ddydd Sul.

Mae grŵp sy’n gwrthwynebu cau Eglwys St Winifride yn Aberystwyth yn ystyried gwrthod gadael yr adeilad.

“Rhaid i ni gymryd safiad,” meddai Lucy Huws, un o’r grŵp sy’n dweud y bydd 300 o blwyfolion yn cael eu gadael heb fan addoli.

Maen nhw hefyd yn apelio’n uniongyrchol at y Fatican er mwyn ceisio cadw’r eglwys Babyddol leol yng nghanol y dref.

Y gwrthwynebiad

Mae’r grŵp yn gwrthwynebu bwriad Esgobaeth Menefia i gau’r eglwys yng nghanol y dref ar ôl yr offeren ddydd Sul.

Dydyn nhw ddim yn derbyn dadleuon yr Esgobaeth nad oes modd atgyweirio’r eglwys ac maen nhw’n gwrthwynebu’r bwriad i godi eglwys newydd ar y cyrion, ym Mhenparcau.

Mae offeiriad y plwyf, y Tad Neil, eisoes wedi ymddiswyddo o Fwrdd Ymddiriedolwyr yr Esgobaeth am nad yw’n credu fod digon o ystyriaeth wedi bod i bosibiliadau eraill.

“Mae hwn yn ymosodiad ar dref Aberystwyth,” meddai Lucy Huws. “Mae fel petai rheolwyr ffiwdal yn llywodraethu o Abertawe.

Maen nhw hefyd yn feirniadol gan ddweud nad oes trefniadau addas wedi’u gwneud ar gyfer cynnal gwasanaethau yn y tymor byr.

Y cefndir

Yn ôl Esgob Menefia, yr Esgob Thomas Matthew Burns, fyddai hi ddim yn ymarferol yn ariannol i atgyweirio’r eglwys sydd yn Ffordd y Frenhines Aberystwyth.

Mae hefyd yn dadlau bod plwyfolion Aberystwyth o blaid cael eglwys newydd a bod mwyafrif o blaid Penparcau.