Mae 86% o bobol gogledd Cymru yn cefnogi creu parthau cadwraeth oddi ar arfordir Cymru, yn ôl arolwg gan fudiad amgylcheddol.
Yn ôl ymchwil a gafodd ei gomisiynu gan WWF Cymru a’i gyflawni fis yma, mae 78% o bobol Cymru gyfan yn cefnogi sefydlu Parthau Cadwraeth Morol i warchod bywyd gwyllt a chynefinoedd
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymgynghori ar greu tair neu bedair ardal gadwraeth forol ac wedi cyhoeddi fod 10 safle ar arfordir Cymru dan ystyriaeth ar gyfer y statws gwarchodedig. Mae disgwyl i’r Llywodraeth gyhoeddi ei phenderfyniad yn fuan.
Mae chwech o’r safleoedd yng ngogledd-orllewin Cymru, a phedwar ohonyn nhw ar Benrhyn Llŷn ble mae pysgotwyr lleol wedi mynegi pryder y byddai cyflwyno parthau cadwraeth yn dinistrio eu bywoliaeth.
Yn ôl arolwg WWF Cymru mae 26% o bobol Cymru’n credu bod Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i warchod moroedd Cymru tra bod 43% eisiau i Lywodraeth Cymru wneud mwy.
Dywedodd Dr Wendy Dodds, Uwch Swyddog Polisi Morol WWF Cymru: “Mae’r canlyniadau hyn yn dangos yn glir bod pobl Cymru’n gwerthfawrogi glannau Cymru a’u hamrywiaeth doreithiog o fywyd gwyllt.
“Rydyn ni’n gobeithio y bydd canlyniadau ein harolwg o ddefnyddwyr yn anfon neges glir i Lywodraeth Cymru bod y cyhoedd eisiau mwy o warchodaeth a’u bod yn cefnogi sefydlu Parthau Cadwraeth Morol.”