Mae ymchwil gan BBC Cymru yn dangos bod 1,000 yn llai o welyau mewn ysbytai nag yr oedd tair blynedd yn ôl.
Mae ystadegau a ddaeth i law drwy gais Deddf Ryddid Gwybodaeth yn awgrymu bod gormod o gleifion yn ysbytai nifer o’r byrddau iechyd yn gyson.
Ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y dylai’r Gwasanaeth Iechyd gael ei farnu ar faterion heblaw nifer y gwelyau.
Mae’n ymddangos bod gorlenwi gwelyau yn gallu arwain at ohirio llawdriniaethau.
Mae meddygon yn awgrymu na ddylai mwy nag 82% o’r gwelyau sydd ar gael fod wedi eu llenwi.
Mae Coleg Brenhinol y Nyrsys wedi beirniadu’r gorlenwi, gan ddweud eu bod nhw eisoes o dan gryn bwysau yn eu gwaith.
Dywedodd nad oes gan staff ddigon o amser i roi gofal digonol i’r cleifion oherwydd sefyllfa’r gwelyau.
Yn ôl yr ymchwil, ym mwrdd iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro y mae’r gorlenwi gwaethaf, gyda rhwng 87% a 91% o welyau wedi cael eu llenwi’n gyson.
Mae dros 1,000 yn llai o welyau ar gael yn yr ysbytai erbyn hyn o’i gymharu â 2009, sy’n cyfateb i ostyngiad o 8%.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Does neb am fod yn yr ysbyty yn hirach na’r angen.
“Ein gweledigaeth ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd yw bydd yno i bobl pan fo’i angen, gan ddarparu gwasanaethau modern, sydd wedi eu canolbwyntio ar atal salwch, yn nes at gartrefi pobl. Mae hyn yn golygu symud oddi wrth ddefnyddio nifer y gwelyau mewn ysbytai fel ffon fesur, gan ganolbwyntio ar sut y gallwn ni gadw pobl allan o’r ysbyty, a darparu gwell integreiddio o ran iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’n briodol, felly, fod nifer y gwelyau mewn ysbytai yn gostwng yn raddol.
“Dylid hefyd fesur y gofal y mae’r Gwasanaeth Iechyd yn ei ddarparu ar rywbeth amgenach na nifer y gwelyau.”