Llun o'r brotest ddydd Sadwrn
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cynnal ail brotest yn swyddfa’r BBC yng Nghaerfyrddin, heddiw.

Ddydd Sadwrn roedd 200 o bobol wedi ymgynull y tu allan er mwyn datgen eu bod yn gwrthwynebu cynlluniau i roi S4C dan adain y gorfforaeth.

Heddiw roedd tua 20 o bobl ifanc wedi cynnal gwersyll tu fewn i adeilad y BBC yng Nghaerfyrddin fel rhan o’r ymgyrch i atal cytundeb rhwng y BBC a S4C.

Bore ma dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith y bydden nhw’n protestio eto, gan gyhuddo y BBC o “gamarwain pobol Cymru” drwy ddweud nad eu penderfyniad nhw oedd cymryd rheolaeth o S4C.

“Fydd twyll y BBC ddim yn argyhoeddi pobl Cymru,” meddai Menna Machreth. “Wythnosau yn ol, roedden nhw’n trio dadlau bod nhw wedi achub S4C, wedyn bod y Llywodraeth wedi gorfodi iddynt gymryd S4C drosodd.

“ Y gwir ydy eu bod nhw wedi arberthu’r Gymraeg a’n hunig sianel teledu Cymraeg er mwyn plesio eu bosys newydd yn y Llywodraeth yn Llundain.

“Dyw’r sianel ddim yn ddiogel yn eu dwylo nhw, yn ddiweddar fe wnaethant benderfynu tynnu allan o Eisteddfod yr Urdd, gwario llai ar deledu Cymraeg a chael gwared o wefan Gymraeg. Yn amlwg, mae’r iaith yn rhywbeth ymylol iddynt.”