Mae’r wasg sydd wedi cyhoeddi nofelau gan gynnwys Twenty Thousand Saints gan Fflur Dafydd a Faith, Hope and Love Llwyd Owen wedi dod i ben oherwydd diffyg grantiau.
Mae golygydd Alcemi, Gwen Davies, wedi cael swydd newydd gyda’r New Welsh Review.
Yn ôl y Lolfa, roedd Alcemi wedi cyhoeddi “ambell deitl llwyddiannus.”
“Ar ôl cyhoeddi’r tri llyfr sydd ar y gweill fis Mai, does dim cynlluniau i gyhoeddi mwy o dan wasgnod Alcemi,” meddai Lefi Gruffudd o’r Lolfa.
“Oherwydd yr anhawster o gael nawdd o dan drefn refeniw’r Cyngor Llyfrau ni fyddwn yn apwyntio neb yn ei lle nac felly’n cyhoeddi nofelau llenyddol Saesneg.”
Roedd Twenty Thousand Saints, wedi “gwerthu yn dda iawn,” a Salvage gan Gee Williams a The Banquet of Esther Rosenbaum gan Penny Simpson “i raddau llai”.
“Ry’n ni’n gorfod cofio pa mor lwcus ydyn ni yn sgrifennu llenyddiaeth Cymraeg ei hiaith,” meddai Llwyd Owen, “achos mae yna gymorth ariannol a chefnogaeth gan y Llywodraeth i ni barhau i allu sgrifennu. Dyw e ddim yn bodoli yn Saesneg.
“Mae lot o lyfrau da wedi dod mas o Alcemi, sydd heb gael unrhyw fath o sylw.”
Y tri llyfr olaf i gael eu cyhoeddi gan Alcemi fydd hunangofiant Richard Gwyn, The Vagabond’s Breakfast; a dwy nofel, Perfect Architect gan Jayne Joso a Dovetail gan Jeremy Hughes.
Ymateb y Cyngor Llyfrau
Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor Llyfrau ei fod yn anghywir nodi nad oes cymorth i ysgrifennu Saesneg o Gymru.
“Mae’r Cyngor Llyfrau yn gweinyddu cyfanswm ariannol o £750,000 ar ran Llywodraeth y Cynulliad sy’n cefnogi rhaglen amrywiol o lyfrau Saesneg gan awduron cyfoes yn ogystal â grant ychwanegol sy’n cefnogi’r gyfres Library of Wales.
“Yn achos Alcemi, roedd y Cyngor wedi derbyn cais ganddynt am grant bloc ar gyfer cyhoeddi pedwar teitl ond fe dynnwyd y cais yn ôl cyn i’r Panel Grantiau gyfarfod i drafod y grantiau ym mis Chwefror.”