Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi mai  Bethan Williams fydd pennaeth newydd y Gogledd.

Cafodd ei phenodi i’w swydd bresennol, sef  golygydd newyddion BBC Cymru yn y Gogledd, yn 2004.

Mae mwy na 100 o staff  yn gweithio yng nghanolfannau’r BBC ym Mangor a Wrecsam.

Mae Bethan Williams, sy’n wreiddiol o Forfa Bychan ger Porthmadog, yn olynu Wendy Rees sydd wedi ei phenodi yn uwch bartner busnes adnoddau dynol y BBC.

Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales: “Mae gan Bethan y profiad a’r gallu, fel y dangosodd yn ddiweddar gyda’i rheolaeth arbennig o staff a gwasanaethau yn y gogledd yn ystod Taith y Fflam Olympaidd ddiweddar, oedd yn ymgyrch enfawr.

“Mae swydd Pennaeth y Gogledd yn un allweddol i feithrin perthnasau pwysig yn y gogledd gyda chynulleidfaoedd a’n partneriaid yn ogystal â sicrhau parhad i lwyddiant ein timau cynhyrchu yn y ddwy ganolfan.”