Mattoidz ar lwyfan Gŵyl 50 ym Mhontrhydfendigaid ym mis Gorffennaf
Mae’r grŵp roc o Sir Benfro, Mattoidz, wedi rhyddhau sengl newydd o’r enw ‘Anodd Gadael’ ar label My Imaginary Label.

Hon yw ail sengl y grŵp eleni wedi  cyfnod hir heb ryddhau cynnyrch newydd o gwbl.

Cynhyrchwyd y sengl gan Tim Hamill yn stwidios Sonic One yn Llangennech, ac mae’n cynnwys un trac newydd sbon, sef ‘Anodd Gadael’ yn ogystal ag un trac, ‘Difaterwch’ oddi ar albwm diwethaf y band.

Gwreiddiau

Wedi cyfnod yn canolbwyntio ar roc trwm, mae steil ‘Anodd Gadael’ yn atgoffa rhywun o wreiddiau ysgafnach y grŵp.

“Ma steil y stwff newydd ni di bod yn recordio yn sicr yn agosach at yr hyn o’n i’n sgrifennu nôl yn nyddiau cynnar y band” meddai prif ganwr Mattoidz, Hefin Thomas, wrth Golwg360.


“Y gwahaniaeth yw, tra bod traciau fel ‘Tan y Tro Nesa’ (o’r EP o’r un enw) ac ‘Angel’ (o’r albwm Edrych yn Well o Bell) yn rai acwstig gydag ychydig o gitars Rhys dros y top, ma ‘Anodd Gadael’ yn sicr yn gân i’r gitâr drydanol!”

“Hefyd, ma’r caneuon newydd llawer yn fwy cytbwys o ran mewnbwn pob un aelod.“

“Ni di tueddu ‘sgrifennu’r caneuon newydd gyda’n gilydd fel band a dwi’n credu fod hynny’n dod ar draws.”

Recordio albwm

Rhyddhawyd albwm diwethaf y grŵp, Llygaid Cau a Dilyn Trefn, nôl yn 2008 ond mae 2012 wedi bod yn flwyddyn gynhyrchiol i Mattoidz wrth iddyn nhw ail-gydio yn y gigio a rhyddhau dwy sengl.

Datgelodd Hefin Thomas fod y grŵp yn bwriadu rhyddhau albwm newydd yn fuan hefyd, a bod wyth o’r traciau eisoes wedi eu recordio’n llawn.

“Er mor gawslyd ma hwn yn mynd i swnio, dwi’n credu fod caneuon newydd y band yn fwy aeddfed ac yn sicr yn fwy personol” meddai wrth Golwg360.

“Ni’n dal i sgwennu rhai caneuon gwleidyddol fel El Presidente ond ma’r traciau ni di recordio ar gyfer y trydydd albwm hyd yn hyn yn gyfuniad o rai ychydig yn fwy canol y ffordd, fel ‘Anodd Gadael’ a rhai sydd yn drymach.”

“Yn syml iawn, amser sydd wedi’n rhwystro ni rhag gwneud mwy ers Llygaid Cau a Dilyn Trefn.”

“Ma’n anodd cael pawb at ei gilydd i ymarfer a recordio ac er bod llwyth o syniadau a chaneuon gyda ni ar y gweill ma dod o hyd i benwythnos lle nad oes gwaith, teulu neu chwaraeon yn y ffordd yn dipyn o gamp!”

Mae modd prynu’r sengl newydd ar iTunes, Google Play, Napster, Amazon, Spotify, Tunetribe a nifer o siopau ar-lein eraill.