Mae dros 300 o swyddi yn Paramount Foods ar Lannau Dyfrdwy yn y fantol ar ôl i’r cwmni gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr.

Mae’r cwmni, sy’n cynhyrchu pizza, yn cyflogi 312 o bobl ar Lannau Dyfrdwy a 138 yn Salford ger Manceinion.

Daw trafferthion y cwmni ar ôl i Paramount Foods golli cytundeb gyda Morrisons, oedd yn cyfrannu tua 40% at ei drosiant.

Mae’r gweinyddwyr mewn  trafodaethau ar hyn o bryd i geisio dod o hyd i brynwr ar gyfer y cwmni.

Mae’r gwaith yn ffatrioedd Paramount Foods bellach wedi dod i ben tra bod y trafodaethau’n parhau.

Roedd y cwmni hefyd yn darparu pizzas ar gyfer Sainsburys, Asda a Tesco.