Maes awyr Caerdydd
Mae Arweinydd Plaid Cymru wedi dweud y dylai Llywodraeth Cymru brynu cyfran ym Maes Awyr Caerdydd er mwyn rhoi hwb i economi Cymru.

Mewn trafodaeth ar lawr y Senedd brynhawn yma ar gysylltiadau rhyngwladol Cymru dywedodd Leanne Wood y byddai prynu cyfran yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu llwybrau hedfan newydd a denu buddsoddwyr o dramor i Gymru.

Dywedodd fod angen strategaeth fanwl er mwyn gwneud i’r maes awyr lwyddo, yn hytrach na “chamau cyflym er mwyn denu penawdau yn unig.”

“Mae Maes Awyr Caerdydd yn eicon Cymreig, ac y mae gan bobl Cymru ddiddordeb byw yn ei ddyfodol,” meddai Leanne Wood.

“Dyw pobl ddim eisiau gorfod mynd i Fryste er mwyn mynd ar wyliau. Mae ymdeimlad y dylai Cymru feddu ar faes awyr rhyngwladol am ein bod yn genedl.”

Yn ystod chwe mis cyntaf eleni bu gostyngiad o 118,000 yn nifer y teithwyr a ddefnyddiodd Maes Awyr Caerdydd o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd, ac mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp er mwyn ceisio adfywio’r Maes Awyr.