Mae mam gafodd ei charcharu ar ôl i’w phlant ddweud wrth y gwasanaethau cymdeithasol ei bod hi wedi eu taro nhw, wedi cael ei rhyddhau gan lys apêl.

Clywodd y Llys Apêl yn Llundain heddiw bod y fam wedi taro dau o’i meibion ar bedwar achlysur dros gyfnod o saith mlynedd.

Cafodd y ddynes, sydd yn ei 30au ac yn byw yn Ne Cymru, ei dedfrydu i 18 mis o garchar gan y barnwr David Wynn  Morgan yn Llys y Goron Caerdydd ar 16 Gorffennaf, ar ôl iddi bledio’n euog i bedwar cyhuddiad o greulondeb tuag at berson o dan 16 oed.

Ond heddiw fe benderfynodd y barnwyr yn y Llys Apêl bod y barnwr David Morgan  wedi gwneud camgymeriad ac nad oedd yr hyn a wnaeth yn waeth na’r hyn sy’n cael ei wneud gan “nifer o rieni cariadus a gofalus drwy’r wlad yn ystod cyfnodau o bwysau.”

Clywodd y llys bod y ddynes wedi cael ei harestio ar ol i un o’i meibion wneud honiad ffug wrth y gwasanaethau cymdeithasol ei bod hi wedi ymosod arno. Fe gyfaddefodd y plentyn yn ddiweddarach ei fod wedi dweud celwydd er mwyn cael mwy o gysylltiad gyda’i dad, sydd wedi gwahanu oddi wrth ei fam.

Ond yn ystod eu hymchwiliad daeth i’r amlwg bod y fam wedi taro ei mab 15 oed yn ei wyneb yn ystod ffrae yn 2010, wedi taro pennau dau o’i meibion yn erbyn ei gilydd ar ol iddyn nhw fod yn ymladd, a hefyd wedi taro dau o’i meibion yn 2003.

Dywedodd ei chyfreithiwr mai’r unig niwed a wnaed yn ystod y digwyddiadau yma oedd bod un o’i meibion wedi cleisio ei glust.

Dywedodd y barnwr bod y ddedfryd wreiddiol wedi bod yn anghywir ac fe orchmynnodd bod ei dedfryd yn cael ei gwtogi  i 5 mis gan olygu ei bod yn cael ei rhyddhau ar unwaith.