Llys y Goron yr Wyddgrug
Mae’r rheithgor yn achos dyn sydd wedi ei gyhuddo o ddynladdiad ar ôl i wal gwympo ar ferch 3 oed, wedi cael rhybudd i beidio “dial” am yr hyn ddigwyddodd.
Cafodd Meg Burgess ei lladd pam gwympodd wal 74 troedfedd o hyd arni tra roedd hi’n cerdded gyda’i mam yng Ngallt Melyd ger Prestatyn ym mis Gorffennaf 2008. Cafodd ei chludo i Ysbyty Glan Clwyd ond bu farw yn fuan ar ôl cyrraedd.
Mae George Collier, 49, cyfarwyddwr cwmni adeiladu o Lys Glanrafon, Bae Cinmel wedi ei gyhuddo o ddynladdiad o ganlyniad i esgeulustod difrifol drwy beidio â chymryd camau priodol i geisio atal ei marwolaeth.
Ond yn Llys y Goron yr Wyddgrug dywedodd ei gyfreithiwr Ronald Walker QC bod yn rhaid i’r rheithgor ystyried y dystiolaeth yn yr achos yn hytrach na cheisio “dial” am yr hyn ddigwyddodd. Roedd hynny’n ymateb naturiol meddai, ond fe fyddai’n rhaid profi bod George Collier wedi rhagweld y gallai ei weithredoedd fod wedi achosi marwolaeth.
Mae’r erlyniad yn honni y dylai George Collier, sydd a mwy na 30 o flynyddoedd o brofiad yn y diwydiant adeiladu, fod wedi gwybod bod angen seiliau mwy cadarn i’r wal.
Mae’r achos yn parhau.