Mae bwyty’r Sosban yn Llanelli wedi ennill gwobr Bwyty Gorau Cymru yn noson wobrau’r AA yn Llundain.
Y sêr rygbi Dwayne Peel a Stephen Jones sy’n berchen ar y bwyty a chawson nhw eu gwobrwyo yng ngwesty’r Hilton yn Park Lane, Llundain.
Agorodd y bwyty fis Medi diwethaf, ac mae’n un o fwytai mwyaf poblogaidd de Cymru erbyn hyn.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y ddau: “Mae’n wych cael derbyn y fath wobr barchus yn ein blwyddyn gyntaf fel busnes. Mae’n deyrnged i’r holl gyfarwyddwyr a’r tîm yn Sosban.”
Cogydd y bwyty yw Siân Rees, sydd wedi gweithio yn rhai o fwytai mwyaf poblogaidd Llundain, gan gynnwys Claridge’s a L’escargot.
Hi a’i phartner, Ian Wood sy’n cyd-redeg Sosban.
Derbyniodd Sosban y wobr gan y cyflwynydd a’r newyddiadurwraig, Kate Silverton.
Yng nghwmni’r mawrion
Cafodd Raymond Blanc, Antonio Carluccio a Heston Blumenthal eu gwobrwyo ar y noson hefyd.
Dywedodd Dwayne Peel: “Roedd yn fraint cael bod yng nghwmni’r fath berchnogion bwytai ac roedd yn deimlad rhyfeddol pan gafodd Sosban ei gyhoeddi’n fwyty gorau Cymru.”
Ychwanegodd Stephen Jones: “Mae’r wobr hon yn coroni blwyddyn gofiadwy i ni. Rydyn ni i gyd yn eithriadol o falch ein bod ni’n cynnig bwyd o safon uchel gan gyflenwyr lleol mewn lleoliad rhyfeddol, sy’n gwneud Sosban yn brofiad ciniawa unigryw.”
Mae’r bwyty, sydd wedi’i leoli yn Noc y Gogledd yn y dref, eisoes wedi ennill nifer o wobrau AA.
Dywedodd y rheolwr cyffredinol, Ian Wood: “Bu’n flwyddyn gyntaf anghredadwy ac rydym wedi cael ein syfrdanu gan y gefnogaeth rydyn ni wedi ei derbyn gan y gymuned leol, yn ogystal â’r rheini sydd wedi teithio’n bellach i roi cynnig ar ein bwyd ni. Maen nhw wir wedi ein cofleidio fel bwyty sy’n fforddadwy ac sy’n meddu ar awyrgylch sy’n addas i’r teulu, ac rydym yn aml yn gweld yr un wynebau’n dod yn ôl dro ar ôl tro.
“Mae’r wobr hon wir yn eisin ar y gacen ar ddiwedd blwyddyn fawr i ni i gyd.”