Mae mudiad sy’n ymgyrchu ym maes democratiaeth yn rhybuddio fod etholiadau Comisiynwyr yr heddlu yng Nghymru mewn peryg o droi’n “ffars.”

Mae Cymdeithas Newid Etholiadol Cymru yn rhagweld bydd yr etholiadau ar Dachwedd 15 yn denu’r nifer isaf o bleidleiswyr yn hanes gwleidyddol Cymru.

Mae’r Gymdeithas yn rhagweld na fydd mwy na 18.5% yn mynd i bleidleisio dros eu comisiynydd heddlu lleol, ac maen nhw wedi anfon llythyr at yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May yn gofyn iddi godi ymwybyddiaeth o’r etholiadau.

“Os yw’r Ysgrifennydd Cartref wir am adael i bobol ddweud eu dweud yna mae’n rhaid iddi wrando ar y rhybuddion sy’n dod o bob cyfeiriad,” meddai Stephen Brooks, Cyfarwyddwr Cymdeithas Newid Etholiadol Cymru.

“Mae ymgeiswyr ar draws Cymru yn gweithio’n galed i ennyn diddordeb pleidleiswyr yn lleol ac mae’n bryd i’r Swyddfa Gartref gadw ei hochor hi o’r fargen neu fydd yr etholiadau mewn peryg o droi’n ffars.”

Mae’r Gymdeithas hefyd yn galw am beidio cynnal etholiadau yn ystod y gaeaf eto.

Mae pedwar ymgeisydd y Blaid Lafur yn yr etholiadau yng Nghymru wedi llofnodi’r llythyr. Mae tad a mab ymhlith ymgeiswyr y blaid – cyn-Brif Ysgrifennydd Cymru Alun Michael, sy’n sefyll yn Ne Cymru, a’i fab Taliesin Michael sy’n sefyll yng Ngogledd Cymru.

Ni fydd Plaid Cymru yn cynnig ymgeiswyr yn yr etholiadau. Pleidleisiodd mwyafrif helaeth cynadleddwyr y blaid yn ei chynhadledd flynyddol yn Aberhonddu o blaid cadarnhau safbwynt y Pwyllgor Gwaith na ddylai’r Blaid gynnig ymgeiswyr i’r etholiad am fod y swyddi dod â gwleidyddiaeth i mewn i waith yr heddlu.