Mae cwmni dosbarthu llaeth yn Hendygwyn-ar Daf wedi cyhoeddi eu bod nhw am symud i ganolfan ddosbarthu newydd ym mhen arall Sir Gaerfyrddin erbyn diwedd y flwyddyn.
Mae Bibby Distribution wedi dweud eu bod nhw’n symud eu canolfan yng ngorllewin Cymru i Cross Hands yn dilyn “adolygiad manwl o waith y cwmni yn yr ardal yma.”
Mae gan Hendygwyn gysylltiad agos gyda’r sector llaeth. Roedd hi’n gartref i hufenfa fwyaf gorllewin Cymru tan i Dairy Crest ei chau yn yr 1990au gan arwain at golli 150 o swyddi.
Yn 2000 agorodd cwmni llaeth cydweithredol Calon Wen ganolfan llaeth organig yn y dref sydd wedi ei lleoli drws nesaf i safle ddosbarthu Bibby, ac sy’n cael ei chyflewni gan 25 o ffermydd lleol.