Damascus
Mae dau ffrwydrad wedi taro dinas Damascus yn Syria ac mae Byddin Rydd Syria wedi hawlio cyfrifoldeb.
Dywedodd llywodraeth Syria fod y ffrwydradau wedi difrodi eiddo ond nad oedd neb wedi ei anafu, tra bod Byddin Rydd Syria yn dweud fod “dwsinau” wedi eu lladd.
Cafodd y ffrwydradau eu clywed yn agos i ganolfannau’r fyddin a’r llu awyr ger Sgwâr Omayyad yn y ddinas, a chafodd ffenestri adeiladau cyfagos eu torri, a gwesty ei ddifrodi.
Mae hefyd adroddiadau y bore ma fod gohebydd newyddion wedi cael ei saethu tra’n siarad yn fyw ar deledu o ddinas Damascus.
30,000 wedi marw yn y gwrthryfel
Mae gwrthwynebwyr i’r Arlywydd Bashar Assad wedi cynyddu eu hymosodiadau’n ddiweddar mewn ymgais i ddymchwel ei lywodraeth.
Yn dilyn y ffrwydradau, roedd yna adroddiadau bod dryllau wedi cael eu tanio gan y lluoedd diogelwch.
Hwn yw’r diweddaraf mewn cyfres o ymosodiadau ers mis Mawrth 2011, ac mae bron i 30,000 o bobl wedi cael eu lladd yn y wlad hyd yma.
Cafodd nifer o bobl eu hanafu ddoe pan ffrwydrodd sawl bom mewn ysgol sy’n cael ei defnyddio fel canolfan gan fyddin y llywodraeth.
Galwodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon am derfyn ar y rhyfel yr wythnos hon.
Dywedodd fod y rhyfela’n bygwth heddwch a diogelwch rhyngwladol a bod angen i’r Cyngor Diogelwch rhanedig ystyried y sefyllfa’n ofalus.
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama eisoes wedi datgan ei gefnogaeth i’r gwrthwynebwyr sy’n ceisio dod â therfyn i gyfnod Assad fel arlywydd.