Heddlu a phrotestwyr yn Madrid
Cafodd 38 o bobl eu harestio a 64 eu hanafu yn ystod gwrthdaro rhwng yr heddlu yn Sbaen a phrotestwyr sy’n gwrthwynebu toriadau’r llywodraeth.

Roedd rhai miloedd o bobl wedi ymgasglu tu allan i Senedd Sbaen yn Madrid ddoe, lle’r oedd 1,000 o blismyn yn ceisio eu hatal rhag amgylchynu’r adeilad.

Roedd plismyn wedi defnyddio pastynau i reoli’r dorf a bu nifer o brotestwyr yn taflu poteli a cherrig at yr heddlu.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod 27 o’r rhai gafodd eu hanafu yn blismyn.