Mae glaw trwm wedi taro sawl rhan o Gymru dros nos, gan gynnwys arfordir gogledd Cymru a Cheredigion.
Ers dydd Sul mae’r Rhyl wedi cofnodi 95mm o law, ac mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio pobol fod yn wyliadwrus heddiw yn dilyn glaw trwm yn ne Cymru.
Mae Trenau Arriva Cymru wedi dweud fod eu gwasanaethau nhw wedi cael eu heffeithio mewn rhai ardaloedd o achos llifogydd lleol.
Yng ngogledd Lloegr mae cannoedd o bobol wedi gorfod cael llety dros dro ar ôl i ddŵr lifo i’w tai ym Morpeth, ger Newcastle, ac yn Durham a Chester-le-Street.
Y newydd da yw bod disgwyl i’r glaw beidio yn ystod dydd Mercher ac mae disgwyl i Ddydd Iau fod yn sych ac yn heulog.