Llun: MTV
Mae gwylwyr wedi ymateb yn chwyrn i raglen gyntaf The Valleys a gafodd ei darlledu ar MTV neithiwr.
Ar Twitter gofynnodd yr awdures o Ferthyr Tudful, Rachel Trezise, “Pam nad oes unrhyw un ar y sioe gyda thamaid o ymennydd neu o leiaf rhyw ychydig o foesau?” tra bod y chwaraewr rygbi rhyngwladol Ian Gough wedi ymateb gyda’r sylw “Nefoedd, mae’r wlad yma mewn cyflwr gwael!”
Mae’r gyfres yn dilyn hynt a helynt criw o bobol ifanc sydd am ddianc o’r Cymoedd er mwyn byw yng Nghaerdydd, ac ar y rhaglen neithiwr cafwyd iaith liwgar, llawer o gyfeiriadau at ryw, a merch yn dangos ei bronnau tra’n siarad Cymraeg i’r camera.
Dywedodd colofnydd gyda’r Daily Mail, Dan Wootton, fod The Valleys yn “gwneud i Geordie Shore edrych yn ddof, a mae hynna’n dweud rhywbeth! Ydy’r bobol yma’n gwybod ein bod ni gyd yn gwylio?”
Mae MTV wedi gwadu bod y gyfres yn ceisio creu darlun ystrydebol o’r Cymoedd, ond nid oedd y rhaglen gyntaf wrth fodd y gantores o’r Rhondda, Sophie Evans.
“Gwyliais i 30 eiliad o The Valleys a dwi’n casau e. Maen nhw gyd yn lladd ar y cymoedd. Symud i Gaerdydd – beth, ugain munud i lawr yr hewl?!?!”
Dywedodd un trydarwr cyson, Dave Jones, mai’r “Cymoedd oedd injan y chwyldro diwydiannol a man geni’r NHS – cofiwch hynna pan wyliwch chi’r rwtsh MTV yna.”
Beth oeddech chi’n ei feddwl o’r rhaglen? Croeso i chi adael sylw.