Cerflun Owain Glyndwr yng Nghorwen
Bydd tridie o ddathlu bywyd Owain Glyndŵr yn dod i ben heno gyda’r Prifardd Mererid Hopwood yn traddodi y gyntaf o ddarlithoedd Glyndŵr yn Galeri, Caernarfon.
Mae ymgyrch ar y gweill ers blynyddoedd i droi 16 Medi yn ŵyl swyddogol gan mai dyma Ddydd Owain Glyndwr.
Cafodd gŵyl arbennnig ei threfnu yng Nghorwen dros y Sul er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r diwrnod.
Trefnydd yr ŵyl yng Nghorwen yw Sian Parry a dywedodd mai’r bwriad oedd nid yn unig codi ymwybyddiaeth am y dyn ei hun ond hefyd yr ymwybyddiaeth o’r Gymraeg yn y dref.
Cynhailwyd taith gerdded hanesyddol i lefydd gyda chysylltiad â Owain Glyndŵr yn y cyffiniau ac fe gynhaliwyd gwasanaeth dwyieithog yn Nghapel Seion. Daw’r cyfan i ben yng Nghorwen gyda gorymdaith at sgwâr y dref er mwyn gosod blodau wrth droed y cerflun o Glyndŵr sydd yno.
Bydd darlith Mererid Hopwood yn dwyn y teitl ‘Ein gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mad’ a bydd yn holi pa mor berthnasol yw Glyndŵr i’n cyfnod ni.
“Y nod yw codi cwestiynau am ein hunaniaeth ni a sut yr ydyn ni’n darlunio ein hunain fel pobl,” meddai.