Gwilym Morus - un o hoelion wyth y Gynghrair
Mae corff casglu breindal yn gofyn i gyfansoddwyr a chyhoeddwyr cerddoriaeth yng Nghymru beidio ag ymuno gyda chorff casglu newydd, sydd wedi ei ffurfio i geisio hawlio gwell bargen.
Yn ôl y Performing Right Society (PRS) ni fydd y corff newydd, sydd ar y gweill yn dilyn cwynion fod cerddorion yng Nghymru wedi gweld hyd at 90% o ostyngiad mewn taliadau breindal am chwarae eu cerddoriaeth ar y radio a’r teledu, yn medru sicrhau mwy o arian i gyfansoddwyr a cherddorion.
Ers ei sefyldu yn dilyn y toriadau, gobaith y Gynghrair Cyhoeddwyr a Chyfansoddwyr Cerddoriaeth Cymru yw sicrhau breindaliadau uwch trwy drafod yn uniongyrchol gyda Radio Cymru, Radio Wales ac S4C.
‘Hyd y gwyddom ni nid oes unrhyw dystiolaeth y gellir sicrhau breindaliadau uwch drwy negodi’n uniongyrchol gyda’r BBC neu unrhyw drwydded arall,’ meddai’r PRS mewn cylchlythyr i’w haelodau.
‘Credwn y byddai’n well pe bai ein haelodau’n cadw eu hawliau gyda PRS for Music, lle medrant barhau i elwa o rannu’r costau gweinyddol a thrwyddedu.’
Yn ôl y PRS mae’r drefn fel ag y mae yn deg:
‘Y tâl presennol am bob munud o gerddoriaeth sy’n cael ei chwarae ar BBC Radio Cymru yw £0.55, a £0.84 ar BBC Radio Wales. Mae’r gwahaniaeth tâl yma’n adlewyrchu cynulleidfa fwy BBC Radio Wales. Mae PRS for Music yn cyfrifo cyfraddau’r funud ar orsaf radio ar sail faint o gerddoriaeth sy’n cael ei chwarae gan orsaf ac ar sail ei chynulleidfa, drwy ddefnyddio gwybodaeth a gyhoeddir gan RAJAR (meincnod y diwydiant ar gyfer darlledu radio).
‘Yn 2006, roedd cyfradd y funud BBC Radio Cymru’n £0.89, nid £7.50 fel yr adroddwyd yn y datganiad i’r wasg gan y Gynghrair.’
Mae’r ffaith fod llai yn gwrando ar Radio Cymru wedi effeithio ar freindal y cerddorion hefyd, meddai’r PRS.
‘Mae’r lleihad gwirioneddol yng nghyfradd y funud BBC Radio Cymru, o £0.89 yn 2006 i £0.55, wedi digwydd am nifer o resymau gan gynnwys bod maint y cynulleidfaoedd wedi newid ynghyd â faint o gerddoriaeth a chwaraeir ar draws holl orsafoedd radio’r BBC.’
Ymateb y Gynghrair
Mae Gynghrair Cyhoeddwyr a Chyfansoddwyr Cerddoriaeth Cymru yn dweud ei bod yn anffodus bod y PRS wedi ymateb “mor negyddol”, ac yn mynnu y bydd sefyldu corff pwrpasol i drafod yn uniognyrchol gyda’r cyfryngau Cymreig yn gweithio:
‘Ar hyn o bryd mae beirdd yn derbyn tua £35 y funud am ddefnydd eu cerddi ar Radio Cymru, hyd yn oed pan nad ydyn nhw’n aelodau PRS. Mae hynny’n enghraifft o raddfa uchel iawn sydd wedi cael ei drafod yn uniongyrchol gyda’r BBC. Rhaid hefyd cofio, heb ein cerddoriaeth ni, ni fyddai Radio Cymru yn gallu darparu’r gwasanaeth mae’n ofynnol iddi wneud; ar ben hynny, heb ddatrys yr argyfwng presennol bydd rhan helaeth o’r diwydaint cerddoriaeth yn dadfeilio yn yr hir dymor, sy’n golygu llai a llai o gynnwys newydd i ddarlledwyr Cymru. Mae’n debyg iawn fod nifer o staff yr orsaf yn deall hyn yn barod, ond mae angen i reolwyr y BBC yn Llundain ddeall hynny hefyd.’
Ac mae’r Gynghrair yn grediniol bod y breindal i gyfansoddwyr wedi syrthio o £1,500,000 yn 2006 i £91,000 yn 2009:
‘Yn 2009 roedd cerddoriaeth yn 36% o gynnwys Radio Cymru, sef 165,564 o funudau o gerddoriaeth y flwyddyn honno. Ar raddfa o 55c y funud, mae hynny’n golygu ein bod ni wedi cael ein talu £91,060, ond gyda’r analogies yn 2006 talwyd tua £1.5 miliwn i’r diwydiant yng Nghymru, ffigwr oedd yn cuddio’r raddfa funud isel. Mae hynny’n cyfateb i tua £9.06 y funud. Cyrhaeddwyd y ffigwr geidwadol o £7.50 drwy geisio amcangyfrif y newidiadau blynyddol.’
Mae gan aelodau’r PRS yng Nghymru tan ddydd Llun i ymaelodi gyda’r corff casglu newydd.