Leighton Andrews
Mae Ysgrifennydd Addysg San Steffan, Michael Gove, yn ymddangos gerbron Aelodau Seneddol heddiw wrth i’r ffrae dros raddau TGAU Saesneg barhau.
Mae’r rheoleiddwyr addysg yn Lloegr, Ofqual, wedi gwrthod ail-raddio papurau TGAU ac mae Michael Gove hyd yma wedi gwrthod ymyrryd er bod enw da TGAU wedi cael ergyd.
Ni ddylai Gweinidogion y llywodraeth ymyrryd gyda phenderfyniadau Ofqual, sy’n gorff annibynnol, meddai Michael Gove.
Ond mae Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, wedi galw ar CBAC i ail-raddio papurau arholiadau Saesneg yn dilyn cwymp yn nifer y disgyblion a dderbyniodd raddau A*-C eleni.
Dywedodd Leighton Andrews fod rhai disgyblion wedi cael cam am fod ffiniau gradd wedi cael eu newid, a dywedodd ei bod hi’n “ffodus fod gyda ni yng Nghymru system reoleiddio sy’n caniatáu i ni ddatrys anghyfiawnder yn gyflym.”
Mae CBAC, sy’n gosod TGAU yng Nghymru ac yn Lloegr, wedi dweud eu bod nhw “mewn sefyllfa anodd ac annisgwyl” ac wedi gofyn am “dir cyffredin” rhwng y rheoleiddwyr yng Nghymru a Lloegr.