Mae dyn 40 oed oedd yn gyrru car fu mewn gwrthdrawiad angheuol yn Aberdâr wythnos ddiwethaf wedi ei gyhuddo o achosi dwy farwolaeth drwy yrru’n beryglus.
Roedd y dyn wedi ymddangos o flaen Llys Ynadon Merthyr Tudful ddydd Mercher. Fe fydd yn mynd gerbron Llys y Goron Merthyr Tudful ar 14 Medi.
Bu farw dau ddyn ar ôl i gar Nissan Skyline fod mewn gwrthdrawiad â char Citroen Xsara.
Mae Heddlu’r De yn apelio ar unrhyw un a welodd y Nissan Skyline lliw gwyn ychydig cyn y gwrthdrawiad, wrth iddo deithio o ganol tref Aberdâr ar hyd yr A4059 tuag at Asda, i gysylltu â nhw.
Y rhifau i’w ffonio yw 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.