Barack Obama
Mae cyn-arlywydd yr Unol Daleithiau Bill Clinton wedi enwebu Barack Obama yn swyddogol fel ymgeisydd y Democratiaid ar gyfer arlywyddiaeth y wlad.

Mae’n addo bod yn gystadleuaeth agos rhwng Barack Obama a’r Gweriniaethwr Mitt Romney.

Ond dywedodd Bill Clinton wrth gonfensiwn y blaid mai Obama oedd y dyn i arwain y wlad drwy’r argyfwng economaidd. Dywedodd fod Barack Obama “wedi gosod y seiliau ar gyfer economi mwy modern a chytbwys.”

Fe fydd Barack Obama yn cyflwyno ei  araith heno ar ddiwedd y confensiwn sydd wedi para tridiau.

Mae’r Democratiaid wedi defnyddio’r achlysur i herio honiadau’r Gweriniaethwyr bod llywodraeth Obama wedi llesteirio’r economi tra bod eu dyledion wedi chwyddo.

Ond mae’r Democratiaid yn honni y byddai Mitt Romney yn dychwelyd i bolisïau economaidd a oedd wedi arwain at ddirwasgiad yn y lle cyntaf, gan elwa’r cyfoethog a chreu rhagor o niwed i deuluoedd difreintiedig a dosbarth canol.