Plas Glyn y Weddw
Bydd gweithgareddau yn cael eu cynnal ym Mhlas Glyn y Weddw yn ystod Gŵyl y Banc mis Awst i ddathlu agoriad amffitheatr newydd yno.
Yn ôl Oriel Plas Glyn y Weddw, fe fydd yr amffitheatr yn “adnodd unigryw a gwerthfawr i’r ardal gan wasanaethu fel llwyfan i gyngherddau a pherfformiadau o bob math.”
Mae’r theatr wedi ei datblygu tafliad carreg oddi wrth y plasty Fictoraidd sy’n gartref i Oriel hynaf Cymru.
Mae rhwydwaith o lwybrau troed eisoes yn agored yn y goedlan a chafodd maes parcio newydd ei agor i wasanaethu’r Plas a’r Winllan ym mis Ionawr eleni.
Diolchiadau
Dywedodd Gwyn Jones, Cyfarwyddwr Plas Glyn y Weddw: “Yn Chwefror 2008 fe brynwyd y goedlan a chychwyn ar y gwaith o glirio tyfiant coed ymledol, agor y llwybrau cerdded a datblygu’r maes parcio a’r theatr newydd. Bedair blynedd yn ddiweddarach ‘rydym yn dathlu pen llanw’r gwaith hwnnw.
“Rydym yn falch iawn o allu dweud bod yr amffitheatr wedi ei hadeiladu gan gontractwyr lleol gyda defnyddiau sydd wedi eu ffynhonnellu yn lleol.”
Cyngerdd gala
Bydd y dathliadau yn dechrau nos Wener, 24 Awst, gyda chyngerdd gala, sydd yn cynnwys nifer o artistiaid adnabyddus o Gymru – mae pob ticed ar gyfer y cyngerdd eisoes wedi’u gwerthu.
Thema Fictoraidd fydd i weithgareddau’r Sadwrn a bydd adloniant gan Ensemble Cymru, Band Arall, Band Pwllheli, a phlant Ysgol Llanbedrog yn ystod y dydd. Hefyd bydd arddangosfeydd o grefftau traddodiadol, teithiau cert a cheffyl, perfformwyr syrcas ac ati.
Hanes a natur fydd y thema’r dydd Sul a bydd y gweithgareddau’n cynnwys darlith ar hanes Plas Glyn y Weddw gan yr hanesydd John Dilwyn Williams, Cadeirydd Cyfeillion Plas Glyn y Weddw.
Yna bydd teithiau cerdded yn cael eu harwain o amgylch y Winllan a mynydd Tir y Cwmwd gan y naturiaethwr a’r hanesydd Twm Elias.
Bydd mynediad a pharcio i’r gweithgareddau am ddim.