Colorama
Mae Colorama wedi rhyddhau eu halbwm diweddaraf, Good Music, ar label AED Records heddiw.

Cynhyrchwyd yr albwm gan y cerddor chwedlonol Edwyn Collins – mae’r Cymro Carwyn Ellis wedi cydweithio llawer â Collins yn y gorffennol ac mae’n gyn aelod o’i fand.

Good Music ydy pumed albwm Colorama, ac mae’n dilyn yr albwm cryno Llyfr Lliwio a ryddhawyd ym mis Hydref llynedd.

Mae aelodaeth y band wedi amrywio tipyn dros y blynyddoedd, gyda Carwyn yn aelod sefydlog.

Er hynny, mae Luca Guernieri a Dave Page wedi bod yn aelodau sefydlog yn ddiweddar hefyd ac wedi bod yn allweddol wrth recordio Good Music.

“Dwi’n gobeithio bod teitl yr albwm yn gweud popeth” oedd disgrifiad Carwyn Ellis wrth i Golwg360 ei holi ynglŷn â’r albwm newydd.

Mae Colorama yn chwarae dau gig i hyrwyddo’r albwm newydd wythnos nesaf:

30 Awst – Hen Eglwys St Pancrasl Llundain

1 Medi – The Castle Hotel, Manceinion

Mae Good Music allan heddiw.