Llun: Thomas Atilla Lewis
Mae Ricky Gervais yn ceisio dysgu Saesneg i gynulleidfa fyd-eang ar y we, gydag isdeitlau Cymraeg ar y sgrin.
Mae’r comedïwr, sy’n adnabyddus am ei gyfres The Office ac am gyflwyno’r Golden Globes yn America, yn trafod pynciau megis moelni a siafo gyda’i gyfaill Karl Pilkington ym mhennod gyntaf y gyfres Learn English (Argraffiad Cymraeg).
Er bod y ddau’n dweud ar y rhaglen mai Tseineiaid yw eu prif gynulleidfa, mae isdeitlau Cymraeg yn ymddangos ar y sgrin.
Cyn darlledu’r bennod gyntaf yr wythnos ddiwethaf roedd Ricky Gervais wedi ail-drydar neges i’w 2.9m o ddilynwyr i’w hannog i wylio er mwyn dysgu beth yw ystyr y geiriau “mae yn foel.”
Mewn rhaglen arall gyda Ricky Gervais dywedodd Karl Pilkington mai’r unig reswm mae’r Cymry yn parhau i siarad Cymraeg yw i atal Saeson rhag eu deall nhw.