Tony Scott
Mae’r cyfarwyddwr ffilm o Brydain, Tony Scott, wedi marw ar ôl neidio oddi ar bont yn Los Angeles, yn ôl yr awdurdodau yn UDA.
Roedd Tony Scott, 68, yn dod o North Shields yn wreiddiol, ac yn adnabyddus am gyfarwyddo’r ffilmiau Top Gun, Days of Thunder a Beverley Hills Cop II.
Roedd yn frawd i’r gwneuthurwr ffilm Ridley Scott ac roedd y ddau yn rhedeg y cwmni Scott Free Productions.
Mae’n debyg bod Scott wedi neidio oddi ar bont Vincent Thomas yn Los Angeles. Yn ôl yr heddlu, cafwyd hyd i lythyr yn ei gar oedd wedi ei barcio ger y bont. Mae’r crwner yn trin ei farwolaeth fel hunan-laddiad.
Roedd Scott yn briod â’r actores Donna Scott ac yn dad i ddau o fechgyn.